Yr Ateb a Ffefrir Gennym ar Gyfer Ceblau Trydan:

Aredig Ceblau

Yn dilyn nifer o gyfarfodydd â thirfeddianwyr yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y peilonau arfaethedig yn ein cymuned, Aredig Ceblau yw'r dull a ffefrir ar gyfer gosod y ceblau trydan.

Ystyrir bod Aredig Ceblau yn ffordd effeithlon, ecogyfeillgar ac effeithiol o osod ceblau o dan y ddaear.

Mae'r dull hwn yn gallu gweithio ar bron unrhyw dir a symud o gwmpas y rhan fwyaf o rwystrau. Mae hyblygrwydd yr Aradr Ceblau yn ei alluogi i gladdu ceblau o gwmpas neu gerllaw amrywiaeth o rwystrau, megis: creigiau, coed, rhwystrau, perthi a waliau. Mae'r aradr yn torri, gosod ac ôl-lenwi – i gyd mewn un gweithrediad, sy'n golygu bod y tir yn cael ei adfer yn llawer cyflymach nag unrhyw ddull arall, gan darfu lawer llai ar y tirfeddiannwr a'r gymuned leol.

Mantais fwyaf arwyddocaol y broses hon yw ei effaith fach ar yr amgylchedd. Mae'r Aradr Ceblau yn torri hollt cul yn y pridd gan amharu cyn lleied â phosibl ar y tir. Mae'r dechneg yn arwain at ychydig iawn o ddifrod i'r ddaear ac nid oes unrhyw newidiadau strwythurol i ffurfiant daearegol y ddaear. Mae'r gwaith o adfer y tir yn aml yn cael ei wneud ar yr un diwrnod, sy'n golygu nad yw'n cymryd yn hir i'r ardal ddychwelyd i'w chyflwr gwreiddiol a naturiol.

Rydym yn ffodus yn ne-orllewin Cymru bod gennym arbenigwr profiadol, sef cwmni ATP Cable Plough, sy'n gwneud y gwaith hwn ledled y DU a'r cyfandir ehangach.

el grŵp rydym yn ddiolchgar i ATP am y cyfle i fynd i arddangosiad a oedd yn dangos y peiriannau ar waith. Cynhaliwyd yr arddangosiad hwn ym mis Mawrth ar ôl un o’r gaeafau gwlypaf erioed, a gwnaeth yr aradr gladdu ceblau 132 kv a 400 kv mewn dim o dro!




I gael rhagor o wybodaeth am Aredig Ceblau ATP gweler: https://www.atpcableplough.com

a gwyliwch eu fideo eu hunain yma: https://www.youtube.com/watch?v=jQIeCSMzK0w